Casnewydd 0–1 Oldham                                                                  

Mae rhediad gwael diweddar Casnewydd yn yr Ail Adran yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Oldham ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae’r Alltudion bellach wedi colli tair gêm gynghrair yn olynol wedi i gôl Zak Mills toc cyn yr egwyl sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Roedd hi’n ymddangos bod yr hanner cyntaf yn mynd i orffen yn ddi sgôr cyn i Mills rwydo yn yr amser a ganiateir am anafiadau, yn ymateb yn gyflym wedi i Nick Townsend arbed ergyd wreiddiol Jonny Smith.

Roedd yr Alltudion yn well wedi’r egwyl ond ddim ddigon da i sgorio gôl ac achub pwynt.

Mae’r golled yn rhoi tîm Mike Flynn yn unfed ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Townsend, McNamara (Dolan 62’), Inniss, O’Brien, Haynes, Labadie (Maloney 68’), Bennett, Abrahams (Nurse 77’), Whitely, Amond, Matt

Cardiau Melyn: Abrahams 60’, Labadie 61’, Inniss 89’, Bennett 90+4’

.

Oldham

Tîm: de la Paz, Mills, Hamer, Wheater, Stott, Iacovitti, Morais, McCann, Missilou, Smith, Segbe Azankpo

Gôl: Mills 45+1’

Cerdyn Melyn: Morais 70’

.

Torf: 3,748