Abertawe 0–1 Millwall                                                                    

Roedd un gôl yn ddigon i Millwall wrth iddynt gruo Abertawe ar y Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Jed Wallace unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe ddaeth yr eiliad fawr ugain munud wedi’r egwyl. Torodd Wallace yn glir ar gôl a chael ei lorio gan Mike van der Hoorn.

Efallai bod yr amddiffynnwr braidd yn lwcus i osgoi heb gerdyn coch ond Wallace a gafodd y gair olaf wrth grymanu cic rydd berffaith i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Borja Baston a gafodd gyfle gorau’r Elyrch i unioni wedi hynny ond anelodd ei ergyd dros y trawst wrth i Millwall ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Mae tîm Steve Cooper yn llithro i’r chweched safle yn y tabl o ganlyniad i’r golled, yn aros yn y safleoedd ail gyfle ar wahaniaeth goliau yn unig.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Wilmot, van der Hoorn, Bidwell, Byers, Grimes, Dyer (Baston 70’), Celina (Surridge 76’), Routledge (Peterson 45’), Ayew

Cerdyn Melyn: van der Hoorn 64’

.

Millwall

Tîm: Bialowski, Hutchinson, Pearce, Cooper, Romeo, Thompson, Williams, M. Wallace, J. Wallace (Bradshaw 90’), Bodvarson (Skalak 76’), Mahoney (Smith 67’)

Gôl: J. Wallace 65’

Cerdyn Melyn: Skalak 84’

.

Torf: 16,840