Charlton 2–2 Caerdydd                                                                    

Tarodd Caerdydd yn ôl i gipio pwynt yng ngêm gyntaf Neil Harris wrth y llyw yn erbyn Charlton ar y Valley amser cinio ddydd Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen ar hanner amser yn y gêm Bencampwriaeth ond tarodd yr Adar Gleision yn ôl i sicrhau gêm gyfartal gyda goliau ail hanner Mendez-Laing a Tomlin.

Aeth Charlton ar y blaen wedi dim ond deuddeg munud wrth i Conor Gallagher gwblhau gwrthymosodiad chwim.

Gwrthymosodiad arall a arweiniodd at ail y tîm cartref dri munud cyn yr egwyl, Erhun Oztumer yn creu i Jonathan Leko rwydo.

Wedi hanner cyntaf siomedig, roedd yr Adar Gleision yn llawer gwell ar ôl troi. Fe ddylai Junior Hoilett fod wedi tynnu un yn ôl wedi pedwar munud yn unig ond cafodd ei gic o’r smotyn wan ei harbed yn rhwydd gan Dillon Phillips.

Fu dim rhaid i’r ymwelwyr aros yn hir serch hynny cyn i Nathaniel Mendez-Laing rwydo.

Roedd Caerdydd yn gyfartal ddeunaw munud o’r diwedd diolch i un o eilyddion Neil Harris, Lee Tomlin yn creu lle iddo’i hun yn y cwrt cosbi cyn anelu ergyd gywir i’r gornel isaf.

Cafodd eilydd arall, Omar Bogle, gyfle i’w hennill hi i’r ymwelwyr wedi hynny ond cafodd ei atal gan Phillips yn y gôl a bu’n rhaid i Harris a’i dîm fodloni ar bwynt.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Cymry yn y trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth cyn y gemau 3 o’r gloch.

.

Charlton

Tîm: Phillips, Matthews, Lockyer, Pearce, Purrington, Oshilaja, Cullen (Morgan 56’), Gallagher, Oztumer, Bonne, Leko (Doughty 79’)

Goliau: Gallagher 13’, Leko 42’

Cerdyn Melyn: Bonne 90+5’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Nelson, Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Mendez-Laing, Paterson (Vaulks 79’), Hoilett (Tomlin 67’), Madine (Bogle 67’)

Goliau: Mendez-Laing 52’, Tomlin 73’

Cardiau Melyn: Madine 58’, Peltier 82’, Tomlin 85’

.

Torf: 16,011