Mae’r amddiffynnwr Chris Mepham wedi datgelu sut y gwnaeth trefniadau munud olaf a rhuthro drwy faes awyr arwain at ddechrau ei yrfa ryngwladol gyda Chymru.

Roedd Chris Mepham chwarae i Brentford B pan ddaeth yr alwad ffôn i ymuno â charfan Cymru o dan 20 ar gyfer Twrnament Toulon yn Ffrainc yn 2017.

“Dw i’n cofio deffro a derbyn galwad ffôn gan Robert Rowan (cyn-Gyfarwyddwr Technegol Brentford) i ddweud wrtha i fy mod i yn y garfan,” meddai Chris Mepham.

Prin oedd ganddo ddigon o amser i bacio ei fag a rhuthro i gyrraedd yr awyren cyn teithio i dde Ffrainc.

“Ers i mi chwarae yn y gêm gyntaf yna yn Toulon i’r tîm o dan ugain, doedd yna ddim mynd yn ôl i mi.

“Dw i’n teimlo balchder pan dw i’n rhoi’r crys ymlaen. Cyn gynted ag y chwaraeais, mi gefais y teimlad fy mod yn rhan o rywbeth arbennig.”

Cyrraedd Ewro 2020 yw “moment mwya’ balch fy ngyrfa hyn yn hyn”

Dywed Chris Mepham mai cyrraedd Ewro 2020 gyda Chymru yw “moment mwyaf balch fy ngyrfa hyn yn hyn.”

“Dw i methu coelio’r peth. Pe byddai rhywun wedi dweud wrtha i fel bachgen ifanc y byddwn i’n mynd i’r Ewros, faswn i heb eu coelio.

“Doeddwn i ddim hyd yn oed yn nhîm cyntaf Brentford (yn ystod Ewro 2016),” medai Chris Mepham.

“Dw i’n cofio gwylio’r holl gemau, heb wybod y byddwn i yn yr un safle cwpl o flynyddoedd wedyn.”