Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y gall e a Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, ddysgu gan ei gilydd.

Daw ei sylwadau wrth iddo gwrdd â’r Wasg ar y diwrnod pan fo rheolwr Casnewydd a’i gynorthwy-ydd Wayne Hatswell yn ymweld â chae ymarfer Abertawe.

Mae’r ddau reolwr yn adnabod ei gilydd ers blynyddoedd, ac mae’r ymweliad yn dod drannoeth buddugoliaeth Casnewydd dros Grimsby yng Nghwpan FA Lloegr.

“Mae e’n foi da sy’n gwneud gwaith gwych yng Nghasnewydd, ac rydyn ni’n siarad dipyn ers blynyddoedd,” meddai Steve Cooper.

“Mae’n fater o’n hamserlenni’n cyd-daro fel ei fod e’n gallu dod yma gyda’i gynorthwy-ydd Wayne, a byddwn ni’n mynd yno pan allwn ni, er mwyn rhannu syniadau a dal i fyny gymaint ag unrhyw beth arall.

“Ond mae croeso cynnes iddo fe ddod yma unrhyw bryd mae’n dymuno a phan alla i fynd yno, fe fydda i’n awyddus iawn oherwydd dw i’n credu ei fod yn bwysig iawn ein bod ni’n rhannu profiadau a syniadau, a’n bod  ni’n trafod pethau.

“Dyna’r peth da am frawdoliaeth yr hyfforddwyr a’r rheolwyr – weithiau byddwch chi’n mynd ben-ben â rhywun a dydych chi ddim am roi allweddi’r castell iddyn nhw ond mae ychydig yn wahanol o ran Flynny.

“Yn amlwg, rydyn ni mewn cynghreiriau gwahanol ac mae gyda ni berthynas sy’n mynd yn ôl ymhellach na’r tymor hwn yn unig.”

Dysgu oddi wrth Mike Flynn

Tra bod Abertawe yn y Bencampwriaeth a Chasnewydd yn yr Ail Adran, mae Steve Cooper yn mynnu y gall e ddysgu cymaint oddi wrth Mike Flynn ag y gall Mike Flynn ei ddysgu oddi wrtho fe.

“Mae e’n fwy profiadol o lawer na fi fel rheolwr,” meddai.

“Dw i’n parchu hynny dipyn.

“Hyd yn oed wrth iddo fe ddod yma heddiw, nid beth rydyn ni’n ei wneud yw testun yr holl sgwrs.

“Rydyn ni’n digwydd bod yma ar gae ymarfer yr Elyrch, dyna i gyd.”

Cyfnod prysur

Daw’r ymweliad ar ddechrau cyfnod prysur i’r Elyrch, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer tair gem o fewn wythnos.

Maen nhw’n croesawu Millwall i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, cyn teithio i Huddersfield nos Fawrth (Tachwedd 26) ac yna gorffen yr wythnos o flaen y camerâu gartref yn erbyn Fulham nos Wener (Tachwedd 29).

Mae’n wythnos fawr i’r Elyrch, yn ôl y rheolwr.

“Mae’n drwm yn nhermau’r amserlen, a gallwch chi ddioddef yn sgil yr amserlen weithiau,” meddai.

“Dw i ddim yn credu ei fod yn annheg, mae’n digwydd fel ’na weithiau.

“Mae’n sicr yn wythnos brysur i ni, gyda gêm gartref ddydd Sadwrn, taith i Huddersfield nos Fawrth a nos Wener ar y teledu – maen nhw’n dod yn gyflym.

“Ond dydyn ni ddim yn mynd i gwyno na chrio amdano fe, ac mae’n rhywbeth fydd rhaid i ni baratoi’n ofalus ar ei gyfer e.

“Mae angen i ni gael gemau ar y teledu, rydyn ni eisiau bod ar y teledu, oherwydd mae’n gynghrair wych ac yn wych i’w gwylio felly gall hynny ymyrryd â’r amserlen weithiau, ond rhaid i chi dderbyn hynny a bwrw iddi.

“Ond rydyn ni’n edrych ymlaen at yr her, oherwydd mae gyda ni dair gêm anodd, yn sicr.”

Ymdopi fel carfan

Mae’r amserlen yn golygu ei bod yn debygol y bydd rhaid i Steve Cooper ddefnyddio nifer o’r chwaraewyr ymylol mewn o leiaf un gêm.

Ond mae’n dweud bod modd paratoi mewn da bryd ar gyfer hynny.

“Mae nifer o resymau dros wneud newidiadau, ond fe fydd rhaid i ni feddwl yn ofalus am hyn, yn sicr, oherwydd mae’r bwlch rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener yn anodd.

“Dydyn ni ddim yn chwarae am 11 diwrnod wedyn, ac mae’r un peth yn digwydd ar ôl y gêm yn erbyn West Brom [Rhagfyr 8].

“Mae’r amserlen dros y lle i gyd ond rydyn ni bob amser yn cynllunio o leiaf fis ymlaen llaw yn nhermau pryd rydyn ni’n ymarfer ac os ydyn ni’n ymarfer neu beidio, ac fe wnawn  ni gadw at hynny.”