Mae Aaron Ramsey yn dweud ei fod e eisiau ailadrodd cyffro Ewro 2016 yn Ffrainc pan fydd pencampwriaethau Ewrop yn cael eu cynnal unwaith eto’r flwyddyn nesaf.
Mae’n rhaid i dîm pêl-droed Cymru guro Hwngari yng Nghaerdydd nos Fawrth (Tachwedd 18) er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth am yr ail waith yn olynol.
Cafodd Aaron Ramsey ei gynnwys ymhlith Tîm y Twrnament bedair blynedd yn ôl wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
Ond doedd e ddim wedi chwarae yn yr ymgyrch bresennol tan iddo ddod oddi ar y fainc ar gyfer hanner awr ola’r gêm yn Azerbaijan neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 16), wrth i Gymru ennill o 2-0.
“Byddai’n golygu popeth,” meddai’r Cymro Cymraeg am gymhwyso.
“Fe wnaethon ni golli allan ar Gwpan y Byd, oedd yn siomedig iawn.
“Fe gawson ni’r amser gorau erioed yn yr Ewros ac rydyn ni eisiau profi rhywbeth tebyg eto.
“Mae gyda ni lawer o wynebau newydd sydd heb brofi hynny, felly byddai’n enfawr iddyn nhw hefyd.”
Aaron Ramsey a Gareth Bale yn holliach?
Daeth Aaron Ramsey i’r cae yn eilydd yn lle Gareth Bale ar gyfer hanner awr ola’r gêm, ond mae Ryan Giggs yn gobeithio y bydd y ddau ar gael i ddechrau’r gêm yng Nghaerdydd.
Mae’r rheolwr yn dweud bod Gareth Bale wedi “rhedeg allan o stêm” tua’r diwedd.
“Roedd yn benderfyniad anodd [i ddewis y ddau neu beidio yng Nghaerdydd].
“Ro’n i’n meddwl, pe bai’r ddau wedi dechrau, na fyddai o leiaf un ohonyn nhw’n gallu chwarae nos Fawrth.
“Mae’n rhaid i ni eu hasesu nhw o hyd. Mae’n gyfnod byr iawn [tan y gêm].
Yn y cyfamser, mae Ryan Hedges wedi’i ychwanegu at y garfan yn lle Tom Lawrence, sydd wedi tynnu’n ôl oherwydd salwch.