Neil Harris yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd.
Mae’r Sais 42 oed wedi llofnodi cytundeb hyd at 2022.
Mae David Livermore wedi’i benodi’n is-reolwr, tra bod James Rowberry (hyfforddwr tîm cyntaf) ac Andy Dibble (hyfforddwr y gôl-geidwaid) yn cadw eu swyddi.
Mae Kevin Blackwell a Ronnie Jepson, dau aelod o dîm hyfforddi Neil Warnock, bellach wedi gadael y clwb.
Bydd Neil Harris yn cyrraedd y cae ymarfer yng ngwesty’r Vale ddydd Llun (Tachwedd 18) i baratoi ar gyfer y gêm yn Charlton ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 23).
‘Hyderus iawn’
“Rwy’n falch o gael penodi Neil yn rheolwr tîm cynta’r clwb,” meddai Vincent Tan, perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd.
“Rwy’n hyderus iawn ynghylch Neil oherwydd ei egwyddorion ar y cae ac oddi arno, a’i frwdfrydedd i lwyddo.
“Rwy’n falch o gynnig y cyfle hwn iddo, ac yn edrych ymlaen at weld yr hyn y gall ei gyflawni gyda Chaerdydd.”
‘Angerddol’
“Mae Neil yn rheolwr angerddol sydd â’r holl rinweddau i fod wrth y llyw yng Nghaerdydd,” meddai’r cadeirydd Mehmet Dalman.
“Rwy’n gwybo ei fod e’n awyddus i ddechrau ar ei waith ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld e’n ymdrechu i gael y gorau allan o’n criw agos a thalentog o chwaraewyr.”
Ychwanegodd Ken Choo, y prif weithredwr, fod gan Neil Harris yr “uchelgais a photensial” i lwyddo.