Mae Gareth Bale wedi bod yn ymarfer gyda charfan Cymru ar drothwy’r gemau rhagbrofol Ewro 2020 yn erbyn Azerbaijan a Hwngari.

Dyw e ddim wedi chwarae ers anafu ei goes yn y gêm gyfartal yn erbyn Croatia ar Hydref 13.

Bydd Cymru’n herio Azerbaijan ddydd Sadwrn (Tachwedd 16) cyn wynebu Hwngari dridiau’n ddiweddarach.

Mae Aaron Ramsey, Daniel James, Neil Taylor ac Ashley Williams i gyd ar eu ffordd i ymarfer ar ôl bod yn chwarae i’w clybiau dros y penwythnos.

Mae angen dwy fuddugoliaeth ar Gymru er mwyn cyrraedd y rowndiau terfynol haf nesaf.