Sheffield Wednesday 2–2 Abertawe                                          

Cipiodd Ben Wilmot bwynt i Abertawe gyda gôl hwyr yn erbyn Sheffield Wednesday yn Hilsborough brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd yr amddiffynnwr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y naw deg munud i sicrhau gêm gyfartal i’r Elyrch yn y gêm tua brig y Bencampwriaeth.

Er mai’r tîm cartref a gafodd y dechrau gorau, Abertawe a aeth ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl gyda gôl Andre Ayew, y gŵr o Ghana yn sgorio gôl digon blêr wedi cic gornel Matt Grimes.

Bu rhaid aros tan ddeg munud o ddiwedd y naw deg am y gôl nesaf, Sheffield Wednesday’n unioni wrth i Fernando Forestieri rwydo ar yr ail gynnig wedi i Freddie Woodman arbed cynnig gwreiddiol Adam Reach.

Roedd Wednesday yn meddwl eu bod wedi ei hennill hi gyda tharan o ergyd Morgan Fox yn y munud cyntaf o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Ond roedd digon o amser ar ôl i’r Elyrch gipio pwynt gyda gôl hwyr hwyr Wilmot, yr amddiffynnwr canol yn sgorio o gic gornel Grimes yn y pumed munud o amser brifo.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn bedwerydd yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Westwood, Palmer, Iorfa, Lees, Fox, Murphy (Reach 76’), Lee, Bannan, Harris (Rhodes 83’), Fletcher, Nuhiu (Forestieri 66’)

Goliau: Forestieri 81’, Fox 90+1’

Cerdyn Melyn: Lee 69’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Wilmot, van derHoorn, Bidwell, Byers, Grimes, Dyer (Roberts 77’), Celina (Fulton 83’), Routledge (Surridge 87’), Ayew

Goliau: Ayew 32’, Wilmot 90+4’

.

Torf: 20,037