Grimsby 1–1 Casnewydd                                                                 

Bydd yn rhaid i Gasnewydd ail chwarae eu gêm rownd gyntaf Cwpan FA yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Grimsby yn Blundell Park brynhawn Sadwrn.

Gôl yr un a oedd hi, y tîm cartref yn mynd ar y blaen cyn i Padraig Amond unioni i’r ymwelwyr o dde Cymru.

Aeth Grimsby ar y blaen ddau funud cyn yr egwyl pan beniodd Luke Waterfall groesiad Liam Gibson i gefn y rhwyd.

Roedd Casnewydd yn well wedi’r egwyl, yn enwedig wedi i Amond ymuno â’r ornest oddi ar y fainc.

Daeth y Gwyddel yn agos at unioni pethau gyda pheniad a darodd y postyn cyn sgorio o’r smotyn ddeg munud o’r diwedd yn dilyn trosedd Jake Hessenthaler ar Mark O’Brien yn y cwrt cosbi.

.

Grimsby

Tîm: Russell, Waterfall, Ohman, Pollock, Gibson, Whitehouse (Clifton 83’), Hessenthaler, Robson, Green (Rose 68’), Hanson, Cook (Cardwell 89’)

Gôl: Waterfall 43’

Cardiau Melyn: Ohman 20’, Green 27’, Robson 90+5’

.

Casnewydd

Tîm: King, Inniss, Bennett (Poleon 77’), O’Brien, Willmott, Labadie, Sheehan, Nurse (Whitely 65’), Haynes, Abrahams (Amond 64’), Matt

Gôl: Amond [c.o.s.] 80’

.

Torf: 2,086