Mae clybiau pêl-droed Caerdydd a Birmingham wedi cael dirwy am ffrwgwd yn eu gêm Bencampwriaeth ddydd Sadwrn (Tachwedd 2).

Fe ddigwyddodd ar ôl i Harlee Dean, amddifynnwr Birmingham, weld cerdyn coch am daro Joe Ralls â’i benelin yn hwyr yn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Birmingham wedi colli apêl yn erbyn y cerdyn coch, ar ôl dadlau nad oedd y digwyddiad yn un maleisus.

Mae’r ddau glwb wedi’u cyhuddo o fethu â sicrhau ymddygiad priodol eu chwaraewyr. Mae ganddyn nhw tan ddydd Gwener (Tachwedd 8) i ymateb.