Mae Gareth Bale wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau tyngedfennol yn erbyn Azerbaijan a Hwngari – er ei fod y dioddef o anaf i’w goes.

Dyw’r chwaraewr Real Mardrid ddim wedi chwarae ers sgorio yn y gêm gyfartal yn erbyn Croatia ar Hydref 13.

Mae Aaron Ramsey wedi ei gynnwys yn y garfan wedi iddo wella o anaf.

Dyw Aaron Ramsey ddim wedi chwarae yn ymgyrch Ewro 2020 Cymru hyd yma o achos anaf, ond gwnaeth ddau ymddangosiad oddi ar y fainc i Juventus wythnos diwethaf.

Mae’r amddiffynnwr Chris Mepham hefyd yn dychwelyd i’r garfan.

Dim Joe Rodon na Johnny Williams

Dyw amddiffynnwr Abertawe Joe Rodon na chwaraewr canol cae Charlton Johnny Williams ddim ar gael ar gyfer y gemau oherwydd anafiadau i’w ffêr a’i ben-glin.

Fydd Daniel Brooks ddim yn holliach wedi cyfnod hir heb chwarae.

Mae Joe Allen wedi ei enwi yn y garfan hefyd, er ei fod wedi ei wahardd rhag chwarae yn erbyn Azerbaijan.