Mae clwb pêl-droed Caerdydd yn wynebu gwaharddiad o’r farchnad am dair ffenestr os na fyddan nhw’n talu’r rhandal cyntaf o’r ffi £15m am Emiliano Sala.

Bu farw Emiliano Sala mewn damwain awyren ym mis Ionawr eleni, tra’n teithio o Ffrainc i ymuno â Chaerdydd.

Gorchmynnodd FIFA fod yn rhaid i glwb pêl-droed Caerdydd dalu’r £5.3m cyntaf mis Medi.

Ond bydd clwb pêl-droed Caerdydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad yn ystod y pythefnos nesaf.

Yr hun mae clwb pêl-droed Caerdydd yn ei ddadlau yw nad oedd y clwb yn atebol am unrhyw ffi gan nad oedd Emiliano Sala yn chwarae i’r clwb pan fu farw.