Wrecsam 1–0 Bromley                                                                     

Roedd foli wych Luke Young yn ddigon i gipio’r tri phwynt i Wrecsam wrth iddynt groesawu Bromley i’r Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Bromley sydd ar frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr ond wnaeth hynny ddim atal y Dreigiau rhag cofnodi eu buddugoliaeth gyntaf ers i Dean Keates ddychwelyd i’r clwb fel rheolwr.

Yr ymwelwyr a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf a bu’n rhaid i Rob Lainton wneud arbediad da i atal Reeco Hackett-Fairchild.

Roedd Wrecsam yn well ar ôl troi ac roedd angen i Ryan Huddart fod yn effro yn y gôl i Salford i arbed cynigion Bobby Grant a Paul Rutherford.

Ond ni allai’r gôl-geidwad wneud dim byd i atal foli arbennig Young o bum llath ar hugain yn y chwarter awr olaf.

Mae Wrecsam yn aros y safleoedd y gwymp er gwaethaf y fuddugoliaeth, yn yr unfed sfale ar hugain wedi ugain gêm.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jenning, Pearson, Rutherford, Summerfield, Lawlor, Young, Horsfield (Carrington 86’), Wright, Tollitt (Harris 61’), Grant

Gôl: Young 77’

.

Bromley

Tîm: Huddart, Coulson, Bush, Bingham, Holland, Kizzi, Wood, Raymond (Clifton 81’), Klass (Mekki 56’), Hackett-Fairchild (Edmonds-Green 73’), Cheek

.

Torf: 3,469