Fydd Joe Rodon, amddifynnwr canol Abertawe a Chymru, ddim ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020 fis nesaf.

Daeth cadarnhad o’i absenoldeb gan Steve Cooper, rheolwr Abertawe, ar ôl i’r chwaraewr o ardal Llangyfelach y ddinas fethu prawf ffitrwydd cyn y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd heddiw (dydd Sul, Hydref 27).

Daeth Ben Wilmot i mewn i’r tîm yn ei le, a sgorio’r gôl fuddugol gyda pheniad ar ôl 24 munud.

Y tebygolrwydd bellach yw fod angen i Joe Rodon gael llawdriniaeth ar ei ffêr, ac y bydd e allan am rai misoedd.

Mae Cymru’n herio Azerbaijan a Hwngari mewn dwy gêm allweddol fis nesaf, ac mae angen dwy fuddugoliaeth arnyn nhw er mwyn cyrraedd y rowndiau terfynol haf nesaf.

“Mae’r hyn sy’n ei anafu’n ei wneud e’n gryfach, ond roedd e’n agos i fod yn ei ddagrau pan glywodd e’r newyddion,” meddai Steve Cooper.

“Dw i’n credu ei fod e wedi ei daro fe pan oedd e’n gwybod na fyddai e’n chwarae.

“Ond wnaeth e sefyll gyda’r tîm, a wnaeth e ddim ein gadael ni am funud.”

Ymateb Abertawe i’r gêm

Mae Steve Cooper yn dweud ei fod e wrth ei fodd gyda’r fuddugoliaeth.

“Ro’n i wrth fy modd oherwydd fe allech chi’n hawdd iawn golli eich emosiwn yn y gêm hon,” meddai.

“Ond ro’n i’n teimlo ein bod ni wedi rheoli’r gêm gyfan, ac fe wnaethon ni greu’r holl gyfleoedd.”

Mae’r fuddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm gartref yn gweld yr Elyrch yn codi i’r safleoedd ail gyfle, tra bod Caerdydd yn 14eg ar ôl dwy fuddugoliaeth yn unig mewn deg gêm.

Ymateb Caerdydd

Mae Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, yn dweud mai rhediad gwael o ganlyniadau sy’n gyfrifol am ddiffyg cyfleoedd i sgorio yn y gêm ddarbi.

“Rydyn ni’n creu cyfleoedd ond rhaid i ni eu cymryd nhw,” meddai.

“Dydych chi byth yn mynd i gael llawer o gyfleoedd mewn gêm ddarbi ac mae’r gôl gyntaf bob amser yn mynd i fod yn bwysig.

“Rhaid i ni ddysgu’r gwersi nad ydyn ni wedi’u dysgu hyd yn hyn.

“Ro’n i’n teimlo ei bod hi o fewn cyrraedd i’w hennill.

“Dw i’n gwybod mai gêm ddarbi oedd hi, ond ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi tawelu’r dorf.

“Bydda’ i’n siomedig yn y gêm gyfatebol os na fydd y sŵn yn uwch na hynny.”