Mae Abertawe wedi curo Caerdydd o 1-0 yng ngêm ddarbi’r de yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty.

Ben Wilmot rwydodd unig gôl y gêm, a’i gôl gyntaf i’r Elyrch, gyda pheniad ar ôl 24 munud.

Roedd yr amddiffynnwr 19 oed, sydd ar fenthyg o Watford, yn y tîm yn lle’r chwaraewr lleol Joe Rodon, oedd wedi methu prawf ffitrwydd.

Abertawe oedd y tîm cryfaf drwy gydol y gêm ddarbi gyntaf rhwng y ddau dîm ers 2014, er iddyn nhw wneud chwe newid i’r tîm.

Roedd yr ystadegau yn erbyn yr Elyrch cyn y gêm, ar ôl ennill dim ond un gêm allan o’r pedair diwethaf gartref, ond roedd ystadegau Caerdydd cynddrwg, gyda dim ond dwy fuddugoliaeth allan o ddeg gêm.

Manylion y gêm

Gallai Andre Ayew fod wedi sgorio ar ôl deg munud yn dilyn pas drwodd gan George Byers ond cliriodd Lee Peltier y bêl oddi ar linell y gôl.

Bu bron i Bersant Celina fanteisio’n ddiweddarach ar gliriad gwan gan y golwr Neil Etheridge, wrth i Matt Grimes ergydio dros y trawst.

Daeth y gôl ar ôl cyfnod o bwyso o’r gornel, ac fe groesodd Wayne Routledge tuag at Ben Wilmot oedd yn rhydd i roi’r bêl yn y rhwyd.

Parhau i bwyso wnaeth yr Elyrch yn yr ail hanner, gan dorri’n rhydd yn gyflym dro ar ôl tro o ganol y cae ac roedden nhw’n edrych yn gyfforddus hyd at y munudau olaf.

Pwysodd Caerdydd am gyfnod yn hwyr yn y gêm wrth geisio unioni’r sgôr, ac fe fu’n rhaid i Freddie Woodman, golwr yr Elyrch, wneud ambell arbediad.

Daeth y cyntaf oddi ar beniad Sean Morrison cyn i Gavin Whyte daro foli tuag at y golwr oddi ar groesiad gan Joe Ralls.

Daeth cyfleoedd hwyr i Nathan Dyer a Bersant Celina, ond fe lwyddodd yr Elyrch i ddal eu gafael cyn y chwiban olaf a’r dathliadau mawr.