Sicrhaodd Dagenham & Redbridge eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm wrth guro Wrecsam o 2-1.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Cymry’n aros yn safleoedd y gwymp, ddau bwynt i ffwrdd o ddiogelwch, a bod y Saeson o fewn un pwynt i’r safleoedd ail gyfle.

Aeth y Saeson ar y blaen drwy Angelo Balanta yn ystod yr amser a ganiatawyd am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Daeth Wrecsam yn gyfartal chwe munud i mewn i’r ail hanner drwy Luke Young wrth geg y gôl.

Ond chwe munud yn ddiweddarach eto, seliodd Dagenham & Redbridge y fuddugoliaeth wrth i Chike Kandi ddarganfod y rhwyd oddi ar groesiad Angelo Balanta.