Fe gollodd tîm Casnewydd y gêm a chyfle yn Colchester i gyrraedd brig yr Ail Adran heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 26).

Fe allen nhw fod wedi codi i’r safle uchaf yn y tabl gyda buddugoliaeth, ond colli o 3-1 oedd eu hanes ar ddiwrnod pan gafodd nifer fawr o gemau eu canslo oherwydd y tywydd.

Mae’r canlyniad yn mynd â Colchester o fewn pedwar pwynt i safleoedd y gemau ail gyfle.

Aeth Casnewydd ar y blaen wrth i Tristan Abrahams ddychwelyd i’r tîm a rhwydo o groesiad gan Josh Sheehan.

Ond roedd y Saeson ar y blaen erbyn yr egwyl wrth iddyn nhw daro’n ôl gyda goliau gan Ryan Jackson o bell a Ben Stevenson.

Seliodd Courtney Senior y fuddugoliaeth gyda thrydedd gôl Colchester ar ôl 74 munud.