Mae Neil Warnock yn galw ar dîm pêl-droed Caerdydd i “bwyllo” yn ystod eu gêm ddarbi fawr yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Liberty brynhawn fory (dydd Sul, Hydref 27).

Dyma’r tro cyntaf ers pum mlynedd i gymdogion y de herio’i gilydd, ac mae gemau’r gorffennol rhwng y ddau dîm wedi bod yn gemau corfforol a thanllyd.

“Dw i ddim yn credu y bydd gan y naill reolwr fawr o ysgogi i’w wneud,” meddai wrth SKY Sports.

“Mae gemau darbi yn gofalu amdanyn nhw eu hunain.

“Yr hyn sy’n rhaid i chi atgoffa’r chwaraewyr ohono fe yw i beidio â cholli eu pennau oherwydd gallwch chi gael eich cario gan yr awyrgylch ac anghofio’r hyn rydych chi fod i’w wneud.

“Dyna’r ofn fwyaf sydd gyda fi mewn gemau darbi, rhywun yn gwneud rhywbeth sy’n groes i’w cymeriad oherwydd yr awyrgylch.”