Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud wrth golwg360 y bydd gwell siap ar amddiffyn ei dîm yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Liberty ddydd Sul (Hydref 27).

Fe fu’n ymateb i sylwadau a wnaeth yn dilyn y golled o 3-0 gartref yn erbyn Brentford nos Fawrth, pan ddywedodd fod ei dîm wedi bod yn “wan heb y bêl”, a bod hynny wedi arwain at amddiffyn gwael ac ildio goliau.

“Dyna’r rhwystredigaeth fwyaf o’r gêm y noson o’r blaen oherwydd, waeth bynnag am ddulliau neu ffyrdd o chwarae pêl-droed, cystadleuaeth yw pêl-droed ac mae’n rhaid i chi ymladd yn erbyn y gwrthwynebwyr,” meddai.

“Rydyn ni wedi pwysleisio’n fawr, yn sicr cyn dechrau’r tymor, fod angen gwneud y gwrthwyneb [i’r hyn wnaethon ni yn erbyn Brentford] a mynd at y gwrthwynebwyr, ceisio adennill y bêl neu o leiaf fod yn glyfar ynghylch lle’r ydyn ni [ar y cae].

“Ar y cyfan, dw i’n credu ein bod ni wedi gwneud hyn yn dda o’r blaen, ond roedden ni’n brin o’r nod y noson o’r blaen.

“Ddaw ddim byd da o’r noson o’r blaen. Ond roedd hi’n amlwg pam na wnaethon ni chwarae’n dda, oherwydd mae rhai pethau rydyn ni’n disgwyl eu gweld ym mhob un gêm.

“Mae’n amlwg pan nad yw hynny’n digwydd, ac mae’n sicr yn amlwg i ni.

“Roedden ni’n gwybod hynny hanner amser, ac fe wnaethon ni’n well yn yr ail hanner ond wnaethon ni ddim byd dw i’n mynd i’w ganmol.

“Ond yn sicr mae’n rhaid i ni ei ddatrys.”

Dim eglurhad

Yn ôl Steve Cooper, all e ddim esbonio pam fod ei dîm wedi bod yn wan heb y bêl yn erbyn Brentford, a wnaeth e “ddim gweld hynny’n dod”.

“Dw i ddim eisiau gwneud esgusodion oherwydd does yna ddim esgusodion i’w gwneud,” meddai wedyn.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi creu mwy o gyfleoedd yn y gêm hon na llawer o gemau eraill.

“Ond wnaethon ni roi gormod i ni ein hunain i’w wneud yn y pen draw a wnaethon ni ddim achub ar gyfleoedd.

“Dw i ddim yn mynd i eistedd yma a dweud y gallai hi fod wedi bod yn 3-3. Nid felly oedd hi.

“Wnaethon ni amddiffyn yn wael yn ystod yr hanner cyntaf ac fe gostiodd hynny’r gêm i ni.

“Wnawn ni bob amser edrych arnon ni ein hunain yn y lle cyntaf, drwy’r amserau da a drwg.

“Ond wnes i ddim ei weld e’n dod, ac fe wnaethon ni ddewis diwrnod gwael i fethu ag amddiffyn yn dda oherwydd roedden nhw mor glinigol ar y diwrnod.

“Dydy hynny ddim bob amser yn digwydd yn y Bencampwriaeth, ond fe wnaethon ni ddewis y diwrnod anghywir ac fe wnawn ni edrych arnon ni ein hunain yn y lle cyntaf yn dilyn y canlyniad.”

Un llygad ar y gêm ddarbi?

Wrth grafu ei ben am eglurhad pellach tros y sioe wael gartref yn erbyn Brentford, mae Steve Cooper yn gwadu’r awgrym fod ei dîm eisoes wedi dechrau troi eu sylw at y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd.

“Mae hynny’n gwestiwn amlwg i’w godi pan nad ydych chi’n chwarae’n dda.

“Doedden ni ddim wedi canolbwyntio ar y gêm [yn erbyn Caerdydd] cyn yr un hon [yn erbyn Brentford] oherwydd rydyn ni’n parchu pawb ac mae triphwynt i’w hennill bob tro, ac roedden ni eisiau gwneud hynny’n fawr iawn nos Fawrth.

“Mae angen i ni fynd a gwasgu [Caerdydd], fel y byddan nhw’n ei wneud i ni.

“Ond hyd yn oed wedyn, does dim gwyro oddi ar y ffordd rydyn ni eisiau chwarae, a ddaw ddim byd o’r noson o’r blaen.

“Ond roedd hi’n neges glir iawn i’r bois y gall hynny ddigwydd os nad ydyn nhw’n gwrando ar yr hyn dw i’n gofyn iddyn nhw ei wneud, oherwydd rydyn ni eisiau amddiffyn mewn ffordd arbennig.”