Mae disgwyl i Bwlgaria gael ei chosbi ar ôl i’r gêm yn erbyn Lloegr neithiwr (nos Lun, Hydref 14) orfod gael ei hatal dwywaith oherwydd siantio hiliol.

Mae’r rhwydwaith The Fare, sy’n helpu UEFA i fonitro hiliaeth mewn gemau yn Ewrop, yn cydweithio â’r corff rhyngwladol er mwyn creu achos cyfreithiol yn erbyn Bwlgaria.

Roedd gan y rhwydwaith swyddogion yn bresennol yn y gêm yn Stadiwm Levski yn Sofia, ac mae’n debyg y bydd gwybodaeth ganddyn nhw a chlipiau fideo yn ffurfio rhan o dystiolaeth UEFA pan fyddan nhw’n penderfynu ar gosb.

Mae cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Clarke, wedi galw am gosb lem i Bwlgaria ar ôl i rai o chwaraewyr croenddu’r tîm cenedlaethol gael eu targedu gan hilgwns ymhlith y cefnogwyr. 

Mae’r grŵp ymgyrchu, Kick It Out, wedi mynd mor bell â galw am wahardd Bwlgaria yn gyfan gwbl o Ewro 2020.