Mae rheolwr tim pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, wedi dweud fod cyfnod Ethan Ampadu ar fenthyg yn RB Leipzig yn peri pryder iddo.

Dyw Ethan Ampadu ddim wedi chwarae’r un gêm ers symud RB Leipzig o Chelsea ar fenthyg.

“Mae’n peri pryder oherwydd mae Ethan mewn oed lle mae o angen chwarae gemau,” meddai Ryan Giggs.

“Mae’n amhosib anwybyddu’r talent sydd ganddo. Ond mae’n anodd iawn iddo chwarae am 90 munud mewn dwy gêm olynol i ni gan nad yw’n cael munudau i’w glwb.”

Ond yn ôl Ryan Giggs dyw e ddim eto wedi siarad â rheolwr Chelsea, Frank Lampard, am sefyllfa Ethan Ampadu.

Bydd Cymru yn herio Slofacia oddi cartref ar Hydref 10, gyda’r gic gyntaf am 2.45yp.