Mae Rabbi Matondo yn hyderus y gall greu argraff yn y Bundesliga wedi iddo symud o Manchester City i Schalke yn Ionawr 2019 am £11m.

Fe sgoriodd ei gôl gyntaf i Schalke yn y fuddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn RB Leipzig.

Dywed ei fod yn gobeithio efelychu ei gyn gyd-chwaraewr Jadon Sancho sydd wedi creu argraff drwy sgorio 16 gôl mewn 55 ymddangosiad ers symud o Manchester City i Borussia Dortmund.

“Efo lwc, fe gai fwy o gyfle i chwarae’r tymor hwn a gallu cyfrannu gyda goliau a helpu’r tîm i godi i fyny’r tabl,” meddai.

“Os gallai wneud yr un mor dda â Jadon Sancho wedi ei wneud hyd yn hyn mi fyddai yn hapus iawn.”