Mae Daniel James yn awyddus i ymateb i amser caled yn Manchester United drwy danio gobeithion Ewro 2020 Cymru.

Mae Manchester United wedi gwneud eu dechreuad gwaethaf i dymor ers 30 mlynedd gan ennill dim ond naw pwynt o wyth gêm.

“Mae’n bwysig ymateb pan nad yw pethau’n mynd yn dda,” meddai Daniel James.

“Y disgwyliad yw ein bod ni’n ennill lle yn Ewro 2020. Dyna rydym eisiau ei wneud a byddai’n wych i mi a’r chwaraewyr ifanc eraill allu cael y profiad yna.”

“Dwy gêm enfawr”

Dywed Daniel James fod y ddwy gêm yn erbyn Slofacia a Croatia yn “enfawr”

“Mae gennym ddwy gêm enfawr wythnos yma – Slofacia oddi cartref a Croatia gartref – ond mae’r rheolwr yn dweud ein bod yn gallu cyflawni unrhyw beth fel tîm. Os gallwn fynd i Slofacia ac ennill, byddai hynny yn ddatganiad mawr.”