Woking 1–1 Wrecsam                                                                      

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Wrecsam deithio i Stadiwm Kingfield i herio Woking yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd James Jennings y Dreigiau ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Kane Ferdinand achub pwynt i’r tîm cartref.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, rhoddodd Jennings Wrecsam ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod, yn gorffen yn daclus heibio i Craig Ross yn y gôl.

Pwysodd y Dreigiau am ail wedi hynny gyda pheniad Jake Lawlor yn cael ei glirio oddi ar y llinell cyn i arbediad da gan Ross atal Jennings rhag cael ei ail.

Y tîm cartref a orffennodd y gêm gryfaf serch hynny ac fe gawsant eu pwynt pan rwydodd Ferdinand o groesiad Shaun Donnellan chwarter awr o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn yr ugeinfed safle yn y tabl, allan o safleoedd y gwymp ar wahaniaeth goliau yn unig.

.

Woking

Tîm: Ross, Cook, Casey, Edser (Hodges 64’), Donnellan, Parry, Diarra, Ferdinan, Hyde (Meite 64’), Tarpey (Kretzchmar 86’), Loza

Gôl: Ferdinand 76’

Cerdyn Melyn: Loza 90’

.

Wrecsam

Tîm: Dibble, Chambers, Barton, Carrington (Harris 65’), Lawlor, Jennings, Summerfield, Young, Rutherford, Oswell, Grant

Gôl: Jenning 48’

Cardiau Melyn: Jennings 45’, Oswell 90+2’

.

Torf: 2,061