Casnewydd 1–0 Carlisle                                                                   

Sgoriodd George Nurse gôl hwyr iawn i ennill tri phwynt i Gasnewydd wrth iddynt groesawu Carlisle i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Wedi naw deg munud di sgôr, fe rwydodd y gŵr ifanc sydd ar fenthyg o Bristol City i ennill y gêm yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Padraig Amond a ddaeth agosaf at agor y sgorio i Gasnewydd mewn hanner cyntaf di sgôr ond roedd yr ymwelwyr o ogledd orllewin Lloegr yn well tîm yn yr ail hanner.

O ystyried hynny, efallai y byddai Mike Flynn wedi bodloni ar bwynt, ond cafodd dri diolch i ergyd wych Nurse o bump llath ar hugain yn y chweched munud o amser brifo ar ddiwedd y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cymry i’r trydydd safle yn y tabl.

.

Casnewydd

Tîm: King, McNamara (Abrahams 45’), Howkins, O’Brien, Haynes, Willmott, Bennett, Sheehan, Dolan (Nurse 87’), Amond (Whitely 69’), Matt

Gôl: Nurse 90+6’

Cardiau Melyn: Haynes 42’, Howkins 65’

.

Carlisle

Tîm: Collin, Elliott, Webster, Knight-Percival, Iredale, Sagaf, Jones, jones, Bridge, Olomola (McKirdy 68’), Hope (Loft 81’)

Cerdyn Melyn: Jones 90+3’

.

Torf: 3,681