Abertawe 1–2 Stoke                                                                          

Ildiodd Abertawe gôl hwyr wrth golli gartref yn erbyn Stoke yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Er iddynt fynd ar y blaen yn y munud agoriadol, mae’r Elyrch yn disgyn o frig y tabl ar ôl colli o ddwy gôl i un ar y Liberty.

Roedd llai na munud ar y cloc pan agorodd Andre Ayew y sgorio, yn rhwydo i gôl agored wedi i Adam Federici wyro cynnig gwreiddiol Yan Dhanda i’w lwybr.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner, Sam Clucas yn sgorio yn erbyn ei gyn glwb wedi i Freddie Woodman arbed cynnig gwreiddiol cyn Alarch arall, Joe Allen.

Er i Abertawe ddechrau’r prynhawn ar frig y tabl a Stoke ar y gwaelod, yr ymwelwyr a oedd yn edrych orau yn yr ail hanner a daeth Peter Etbo yn agos at eu rhoi ar y blaen wrth daro’r trawst.

Ac fe ddaeth y gôl yn y diwedd, ym munud olaf y naw deg. Gôl flêr oedd hi, Scott Hogan yn rhwydo wedi i Woodman arbed peniad y Cymro, Sam Vokes.

Mae pethau’n agos ar frig y Bencampwriaeth ac mae tîm Steve Cooper yn disgyn i’r pedwerydd safle o ganlyniad i’r golled munud olaf hon.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, van der Hoorn, Rodon, Naughton (Bidwell 16’), Fulton (Byers 62’), Grimes, Ayew, Dhanda, Celina (Routledge 66’), Baston

Gôl: Ayew 1’

Cardiau Melyn: Fulton 47’, Grimes 79’

.

Stoke

Tîm: Federici, Edwards, Natth, Carter-Vickers, Martins Indi, Ndiaye, Allen, Clucas, Etebo, Gregory (Vokes 65’), Campbell (Hogan 65’)

Goliau: Clucas 22’, Hogan 90’

Cerdyn Melyn: Allen 42’

.

Torf: 16,612