Solihull 3–1 Wrecsam                                                                       

Colli am y trydydd tro mewn pedair gêm a oedd hanes Wrecsam wrth iddynt deithio i Damson Park i herio Solihull Moors yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr nos Fawrth.

Er i Brian Flynn gael dechrau da i’w gyfnod fel rheolwr dros dro ar y Cae Ras gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Ebbsfleet ddydd Sadwrn, roedd hi’n stori wahanol wrth iddo fynd â’i dîm ar y ffordd i ganolbarth Lloegr ganol wythnos.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond deg munud, Jamey Osborne yn crymanu’r bêl i gefn y rhwyd.

Ar ôl sgorio’r gyntaf, fe greodd Osborne yr ail i Jamie Reckord ac roedd Solihull ddwy gôl ar y blaen wedi pum munud ar hugain.

Rhoddodd Bobby Grant lygedyn o obaith i’r ymwelwyr o Gymru toc wedi’r awr ond roedd y gêm allan o’u gafael unwaith eto ychydig funudau’n ddiweddarach diolch i gôl ryfedd iawn.

Fel pe bai tymor Wrecsam ddim digon siomedig yn barod, gôl yn uniongyrchol o gic gornel a oedd yr un a seliodd eu tynged yn y gêm hon, ail Osborne o’r noson, 3-1 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn ugeinfed yn y tabl, allan o safleoedd y gwymp ar wahaniaeth goliau yn unig.

.

Solihull

Tîm: Boot, Reckord, Storer, McCallum (Yussuf 67’), Gudger, Daly, Osborne (Hawkridge 83’), Gunning, Wright (Neufville 90’), Vaughan, Howe

Goliau: Osborne 11’, 70’, Reckord 25’

Cerdyn Melyn: Wright 84’

.

Wrecsam

Tîm: Dibble, Barnum-Bobb (Harris 75’), Jennings, Young, Lawlor, Pearson, Summerfield, Grant, Oswell (Hooper 57’), Carrington, Rutherford

Gôl: Grant 63’

Cerdyn Melyn: Pearson 33’

.

Torf: 1,425