Bu’n rhaid gohirio gêm rhwng clwb o’r Gogledd a deithiodd 270 o filltiroedd yn ôl a blaen i chwarae yn erbyn tîm yn y brifddinas oherwydd bod lliwiau eu crysau yn rhy debyg.

Fe deithiodd Derwyddon Cefn  yr holl ffordd i wynebu Met Caerdydd – yn bwriadu defnyddio eu cit gemau oddi cartref lliw coch, yn hytrach na’u cit du a gwyn arferol ar gyfer eu gemau cartref.

Mae clwb Met Caerdydd yn gwisgo crysau lliw marwn, ac roedd swyddogion y Derwyddon, sydd wedi ei leoli yn Cefn Mawr, Wrecsam, yn credu fod yna ddigon o wahaniaeth iddyn nhw yrru ymlaen a’r ornest ym Mhrif Gynghrair Cymru.

Heb y cit arferol

Yn anffodus, penderfynodd y dyfarnwr a swyddogion eraill yn y gêm fod y lliwiau yn rhy debyg ac nid oedd tîm Derwyddon Cefn wedi dod a’u cit arferol gyda nhw i gae’r Met yn Ffordd Cyncoed, Caerdydd.

Bu’n rhaid gohirio’r ornest gyda’r Derwyddon yn gorfod teithio yr holl ffordd adref heb i unrhyw bêl gael ei chicio.

Gallai’r Met fod wedi dringo i frig y tabl os y bydde nhw wedi curo’r Derwyddon ddoe. Yn lle hynny, bu’r chwaraewyr yn chwarae cicio pêl gyda rhai o’u cefnogwyr ieuengaf.

Mae’r Derwyddon – y clwb pêl-droed hynaf yng Nghymru – yn yr wythfed lle ac wedi ennill dim ond unwaith allan o’u saith gêm cyntaf y tymor hwn.

Bydd yr ornest nawr yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Tachwedd 23. Ond mae’r digwyddiad yn embaras mawr i’r Gynghrair.

Dywedodd Ysgrifennydd y Gynghrair Gwyn Derfel ei fod “wedi rhoi ei ffydd ym mhenderfyniad y dyfarnwr” i ohirio’r gêm.