Abertawe 1–1 Reading                                                                     

Bu’n rhaid i Abertawe fodloni ar bwynt yn unig ar ôl ildio gôl hwyr yn erbyn Reading ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Byddai buddugoliaeth wedi codi’r Elyrch i frig y Bencampwriaeth ond maent yn yr ail safle oherwydd gôl funud olaf Andy Yiadom.

Aeth y Cymry ar y blaen wedi dim ond tri munud pan beniodd Borja Baston i gefn y rhwyd o groesiad cywir Andre Ayew.

Gwastraffodd y tîm cartref lu o gyfleoedd i ddyblu’r fantais wedi hynny, gydag Ayew, Connor Roberts, George Byers a Sam Surridge i gyd yn euog.

A chawsant eu cosbi ym munud olaf y naw deg pan rwydodd Yiadom wedi gwaith creu Lucas Joao.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn ail yn y Bencampwriaeth ond tri phwynt yn unig sydd yn gwahanu’r naw uchaf wedi naw gêm.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, van der Hoorn, Rodon, Naughton, Fulton (Carroll 82’), Grimes, Ayew, Byers, Celina (Garrick 77’), Baston (Surridge 77’)

Gôl: Baston 3’

.

Reading

Tîm: Cabral Barbosa, Moore, Morrison, Blackett (Lucas Joao 21’), Yiadom, Swift, Rinomhota, Ejaria, Obita (Richards 82’), Puscas, Boye (Barrett 45’)

Gôl: Yiadom 90’

Cardiau Melyn: Boye 27’ Moore 48’, Rinomhota 73’

.

Torf: 16,036