Norwich 3 – 1 Abertawe

Ar ddiwrnod siomedig i chwaraeon Cymraeg, collodd Abertawe oddi cartref am y pedwerydd gȇm yn olynol.

Yn wahanol i chwaraewyr rygbi dewr Cymru, ni all yr Elyrch gwyno llawer am degwch eu canlyniad yn erbyn Norwich. Norwich oedd y tîm gorau o’r cychwyn,  mewn gêm y byddai’n ddoethach i Abertawe geisio ei  anghofio.

Dyrchafwyd y ddau dim o’r Bencampwriaeth flwyddyn diwethaf ac mae’r ddau wedi addasu’n dda i fywyd yn y Brif Gynghrair; cyn ddydd Sadwrn roedd Norwich yn 9ed yn y tabl ac Abertawe’n 10ed.

Dyma oedd gêm gyntaf y ddau glwb ers pythefnos ac roedd y saib wedi  galluogi canolwr Abertawe, Leon Britton, i wella o anaf i’w gefn. Roedd dylanwad Cymraeg yng ngharfan Norwich, gyda’r ymosodwr Steve Morison yn dechrau ac Andrew Crofts yn eistedd ar y fainc.

Roedd cefnogwyr Abertawe ychydig yn flinedig ar ôl teithio dros 300 milltir i Carrow Road, er ddim  mor flinedig â golwg y chwaraewyr ym munudau agoriadol y gêm.

Gyda llai na munud ar gloc y stadiwm roedd Norwich ar y blaen. Llwyddodd Morison i guro dau amddiffynnwr i gyrraedd croesiad Elliott Bennett. Peniodd y bêl i gyfeiriad Anthony Pilkington, ac ergydiodd yr ymosodwr ifanc heibio’r golwr Michel Vorm.

Roedd y Caneris yn edrych yn gyfforddus ac yn hyderus ar ôl eu dechrau anhygoel. Ddeng munud yn hwyrach gwaethygodd sefyllfa Abertawe. O gic rydd Fox, neidiodd yr amddiffynnwr, Russell Martin, heb grys gwyn yn agos iddo,  i benio’r bêl yn benderfynol i gefn y rhwyd.

Yn dilyn dechrau trychinebus roedd rhaid i Abertawe ymateb yn gyflym ac fe sgoriodd tîm Brendan Rodgers yn syth i godi gobeithion y Cymry. Rhedodd Scott Sinclair rhwng dau grys melyn, ac er iddi ymddangos fel petai’r asgellwr wedi colli’r frwydr gorfforol, dyfalbarhaodd ac ymestynodd ei goes i gadw’r bêl ar dir y chwarae. Ciciodd y bêl i gyfeiriad Danny Graham, a oedd yn barod am bas Sinclair. Rhwydodd Danny Graham gyda’i droed chwith i roi gobaith i Abertawe.

Hyderai  cefnogwyr yr Elyrch y buasai gôl Graham yn tanio’r tîm. Gwaetha’r modd,  ar wahân i ambell gyfnod o feddiant ac ambell ergydiad uchelgeisiol o bellter, ni fygythiodd Abertawe’n aml am weddill yr hanner.

Yn wir, trwy gydol gweddill yr ornest Norwich oedd fwyaf bygythiol. Roedd eu rhedeg a’u pasio yn llawer mwy bwriadol, ac roedd mwy o egni yn eu chwarae. Cafodd Morison ambell gyfle da, ac roedd Elliott Bennett yn boendod cyson i Neil Taylor.

Ar ddechrau’r ail hanner methodd yr Elyrch gael gwared o’r bêl yn dilyn cic gornel. Pasiodd Bradley Johnson y bêl i Pilkington, a oedd yn aros yn eiddgar o flaen Vorm. Trodd Pilkington i sgorio ei ail gôl.

Ni fygythiodd Abertawe lawer am weddill y gêm, a pharharodd Norwich i ymosod.

Roedd y canlyniad yn adlewyrchiad teg o oruchafiaeth Norwich yn erbyn Abertawe.

Dywedodd Brendan Rodgers bod amddiffyn Abertawe wedi ei ddigalonni, er nad oedd, meddai, yn pryderi gormod am fethiannau’r Elyrch oddi cartref hyd yn hyn.

Efallai nad yw Rodgers yn poeni am ganlyniadau’r Elyrch oddi cartref, ond bydd rhaid gwella cyn wythnos nesa, pan fydd Abertawe’n teithio i Mollineux i chwarae yn erbyn Wolves. Mae’r tîm o ganolbarth Lloegr wedi colli pump gêm yn olynol, ac os nad yw’r Elyrch yn dwyn pwyntiau oddi ar y  Bleiddiaid mi fydd cefnogwyr a chwaraewyr yn dechrau colli hyder ar eu teithiau.