Roedd Port Talbot yn uchel eu cloch brynhawn Sadwrn wedi i Cortez Belle rwydo ddwywaith er mwyn sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i’r tîm cartref yn Stadiwm GenQuip yng ngêm fyw Sgorio.

Dim ond un tîm oedd ynddi mewn gwirionedd a dylai Port Talbot fod wedi sgorio mwy wrth iddynt fethu llu o gyfleoedd da. Gôl braidd yn ffodus oedd un Airbus ac ar wahân i honno doeddynt ddim yn edrych fel rhwydo.

Dechrau Da

Daeth cyfle cyntaf y Gwŷr Dur wedi llai na munud o chwarae, tafliad hir Belle yn achosi trafferthion i amddiffyn Airbus a’r bêl yn disgyn i Lee John yng nghanol y cwrt cosbi. Roedd hi’n ergyd nerthol ganddo ef o ddeg llath ond cafodd ei harbed yn wych gan gôl-geidwad deugain oed Airbus, Andy Mulliner.

Cafodd y tîm cartref eu hail gyfle da wedi 3 munud. Roedd peniad nerthol Dylan Blain o gic gornel Sacha Walters yn mynd yn syth i gornel uchaf y rhwyd cyn i waith da Danny Taylor ei phenio oddi ar y llinell i Airbus.

Yna, wedi saith munud, gwrthymosododd David Brooks yn gyflym cyn rhoi pas wych i Belle tu ôl i amddiffyn Airbus, ond ergydiodd y blaenwr cyhyrog yn wan ac yn syth at Mulliner cyn i Walters wastraffu’r ail gyfle.

Port Talbot oedd yn rheoli’r chwarae yn y chwarter cyntaf ond hynny heb ddim byd i’w ddangos am eu goruchafiaeth.

Cyfle Cyntaf  Airbus

Bu rhaid aros 27 munud cyn cyfle cyntaf Airbus. Torrodd Mike Hayes y trap camsefyll a  rhedeg yn rhydd tuag at Bartek Folger yn y gôl i Bort Talbot. Dim ond ddiwrnod ynghynt yr oedd y golwr o Wlad Pwyl wedi arwyddo i’r tîm cartref a chrëodd argraff yn syth wrth ddod allan yn gyflym i atal Hayes.

Ond rhoddodd y cyfle ychydig o hyder i’r ymwelwyr ac roedd arwyddion eu bod yn dechrau dod i mewn i’r gêm wedi hanner awr o chwarae.

Ond roedd gan Belle syniadau gwahanol a rhoddodd Port Talbot ar y blaen gyda chwip o ergyd wedi 32 munud. Roedd o braidd yn ffodus i’r bêl ddisgyn mor garedig iddo ond doedd dim yn ffodus am yr ergyd, hanner foli nerthol i gornel isaf y rhwyd o 20 llath.

Roedd Port Talbot yn rheoli’r gêm unwaith eto wrth i’r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn a gwastraffodd Paul Keddle un o’r cyfleoedd gorau funud cyn yr egwyl. Cafodd ei hun yn gwbl rydd o gic gornel ond peniodd yr amddiffynnwr dros y traws pan dylai fod wedi taro’r targed o leiaf.

Port Talbot oedd y tîm gorau o dipyn yn yr hanner cyntaf, yn rheoli’r meddiant ac yn creu cyfleoedd da. Ond gan iddynt fethu cymaint o’r cyfleoedd hynny dim ond un gôl oedd ynddi ar yr egwyl ac roedd hynny’n rhoi gobaith i Airbus.