Mae Heddlu’r De yn llacio’r cyfyngiadau ar gefnogwyr timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd sy’n teithio ar gyfer y gemau darbi yn y naill stadiwm a’r llall y tymor hwn.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n ymateb i ymddygiad da blaenorol y cefnogwyr.

Yn y gorffennol, fe fu’n rhaid i gefnogwyr y naill dîm a’r llall deithio i stadiwm eu tîm er mwyn dal bws swyddogol y clwb.

Ond y tymor hwn, fe fydd modd iddyn nhw deithio i fannau sy’n gyfleus iddyn nhw i ddal y bws a fydd yn eu cludo’n syth i’r stadiwm.

Fe fydd modd i gefnogwyr amnewid tocyn bws am docyn i’r gêm yn y stadiwm, yn hytrach na gorfod bod â thocyn i’r gêm i gael mynediad i’r bws yn y lle cyntaf.

Yn ôl yr heddlu, fe fydd hyn yn osgoi cryn dipyn o deithio a chiwio.

“Mae ymddygiad da’r cefnogwyr, ynghyd â stiwardio a phlismona effeithiol, i gyd wedi dod ynghyd i greu achlysur o fwynhad, ac wedi creu argraff bositif iawn o safbwynt gemau darbi de Cymru,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae plismona gemau pêl-droed wedi newid dros y chwe thymor ers i’r ddau glwb gyfarfod diwethaf, gyda’r nifer o orchmynion gwahardd a phobol sy’n cael eu harestio yng ngemau cartref Abertawe a Chaerdydd yn is o lawer nag o’r blaen.

“Rydym wedi cynnal sawl cyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r ddau glwb ac wedi ystyried eu safbwyntiau a’u pryderon o’r gemau blaenorol.”