Mae Steve Cooper ei fod e wedi ennill gwobr “i bawb sy’n gysylltiedig â’r clwb” ar ôl cael ei enwi’n Rheolwr y Mis ar gyfer mis Awst.

Fe ddaeth i’r brig ar ôl cyrraedd rhestr fer oedd yn cynnwys Lee Bowyer (Charlton), Lee Johnson (Bristol City) a Marcelo Bielsa (Leeds).

Mae’r Elyrch wedi ennill pum gêm ac wedi cael un gêm gyfartal hyd yn hyn, gan gyrraedd brig y Bencampwriaeth.

Maen nhw’n croesawu Nottingham Forest yn y gynghrair heddiw.

“Nid gwobr i’r unigolyn mo hwn,” meddai Steve Cooper.

“Yn hytrach, mae’n adlewyrchiad o waith caled ac ymdrech nid yn unig y chwaraewyr ond y staff hyfforddi a phawb sy’n gysylltiedig â’r clwb.

“Yn ein clwb ni, mae pawb yn rhan o’r tîm ac mae popeth maen nhw’n ei wneud yn cyfrannu at yr hyn sy’n digwydd ar y cae.

“O’r amser byr dw i wedi bod yma, mae’n amlwg i fi fod pob un person sy’n gweithio i’r clwb pêl-droed hwn mor angerddol wrth helpu Abertawe i symud yn ei flaen.”

Cafodd yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn ei enwebu ar gyfer gwobr Chwaraewr y Mis, ond fe aeth y wobr i Daniel Johnson, sy’n chwarae i Preston.