Un cyn chwaraewr Abertawe ac un cyn chwaraewr Caerdydd sgoriodd y goliau i Ipswich yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn ond roedd dwy gôl i’r tîm cartref o boptu’r ddwy yn ddigon i ennill pwynt i’r Adar Gleision.


Caerdydd a Rudy Gestede gafodd y gair cyntaf wedi ugain munud o chwarae er nad oeddynt wedi cynnig llawer cyn hynny, peniad yr ymosodwr yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen.

Ond yna daeth gôl hynod amhoblogaidd gan un o gyn-ffefrynnau’r Liberty, Jason Scotland. Ergyd o ugain llath gan yr ymosodwr cyhyrog yn syth i gornel isaf y rhwyd er mwyn unioni’r sgôr.

Aeth Michael Chopra yn agos cyn yr egwyl cyn rhoi ei dîm newydd ar y blaen yn haeddiannol bum munud wedi’r egwyl. Croesiad da gan Carlos Edwards o’r asgell dde a chyn chwaraewr yr Adar Gleision yn penio i’r rhwyd. Wnaeth Chopra ddim dathlu ei gôl ond doedd hynny yn fawr o gysur i gefnogwyr Caerdydd a oedd bellach ar ei h’ôl hi o 2-1.

Roedd Caerdydd yn diolch i’w golgeidwad, David Marshall am eu cadw yn y gêm yn fuan wedyn wrth iddo arbed cynnig arall gan Scotland.

Caerdydd yn hytrach sgoriodd y gôl nesaf. Llawiodd Aaron Cresswell y bêl yn y blwch cosbi a phwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn. Serch hynny, rhedodd draw at ei ddyfarnwr cynorthwyol am sgwrs hir cyn i’r ddau ddod i’r casgliad ym mhen hir a hwyr bod hwnnw’n benderfyniad cywir. Peter Whittingham gymerodd y gic ac er i olgeidwad Ipswich, David Stockdale ddod yn agos ati, rhwydodd chwaraewr canol cae Caerdydd er mwyn ei gwneud hi’n 2-2.

Ac felly arhosodd hi er i Gaerdydd bwyso am y gôl fuddugol yn y chwarter awr olaf. Daeth Gestede a Don Cowie yn agos ond arbedodd Stockdale ar y ddau achlysur. Mae Caerdydd yn nawfed  yn y gynghrair yn dilyn y gêm gyfartal.