Curodd Cymru dim gwan Belarws o un gôl i ddim gerbron 7,666 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Sicrhaodd gôl fendigedig Daniel James, gynt o Abertawe, a nawr o Manchester United, ar ôl dim ond 17 munud fod Cymru yn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd efo buddugoliaeth.

Roedd yna gapiau cyntaf i Kiefer Moore o Wigan Athletic a Joe Morrell o Lincoln.

Cyfle euraidd

Er mai gêm gyfeillgar oedd hi, mae’n debygol y bydd Cymru’n teimlo y dylen wedi sgorio mwy o goliau wrth i sawl cyfle gael ei wastraffu.

Peniodd Kiefer Moore y bêl heibio’r rhwyd a methodd Gareth Bale gyfle euraidd ar ôl i Harry Wilson roi’r bêl ar blat iddo. 

Bydd Cymru yn herio Slofacia oddi cartref ar Hydref 10.