Mae Ryan Giggs yn dweud ei fod “wrth ei fodd” gyda pherfformiad Cymru yn erbyn Belarws neithiwr (nos Lun, Medi 9).

“Yn enwedig yn yr hanner cyntaf, roeddwn i’n teimlo ein bod yn wych,” meddai. “Yn yr ail hanner gwnaeth Belarws fywyd ychydig yn anoddach i ni, ond roeddwn i’n meddwl fod y ddau lanc oedd yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn dda iawn ac yr oll oedd ar goll oedd yr ail gôl.”

Dyma’r ail fuddugoliaeth yn olynol i Gymru wedi iddynt drechu Azerbaijan o un gôl i ddim nos Wener (Medi 6).

Brolio Daniel James

“Pan ti’n cael rhediad cystal ag y mae o wedi ei gael, mae chwaraewyr eisiau parhau i chwarae. Mae o’n cael y cefnogwyr oddi ar eu traed,” meddai.

“Mae o’n un o’r chwaraewyr yna lle ti’n gwybod beth mae o am ei wneud ond alli di ddim ei stopio. Mae o wedi sgorio gymaint o goliau tebyg, ond mae’n anodd iawn ei stopio oherwydd ei fod yn gallu mynd y naill ffordd neu’r llall.”