Mae adroddiadau amrywiol yn y wasg yn awgrymu bod Queens Park Rangers yn paratoi cynnig o £5 miliwn am amddiffynnwr Abertawe Ashley Williams.

Dywedodd rheolwr QPR, Neil Warnick yr wythnos diwethaf mai arwyddo amddiffynnwr canol yw ei flaenoriaeth pan fydd ffenestr drosglwyddo mis Ionawr yn agor.

Mae rheswm i gredu mai chwaraewr rhyngwladol Cymru, Williams yw un o’i brif dargedau ar ôl iddynt geisio denu’r chwaraewr i Loftus Road dros yr haf.

Byddai’n rhaid i Warnock dalu’n hael am Williams ag yntau newydd arwyddo cytundeb newydd tair blynedd o hyd gydag Abertawe.

Mae amddiffynnwr canol arall o Gymru, Danny Gabbidon eisoes yng ngharfan QPR, ond mae wedi’i anafu ar gyfer eu gêm yn erbyn Blackburn yfory.