Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei bod yn “rhy gynnar i gyffroi” ar ôl gweld ei dîm yn curo Leeds o 1-0 yn Elland Road, a sefyll ar eu pennau eu hunain ar frig y Bencampwriaeth.

Mae’r Elyrch ddau bwynt ar y blaen i Charlton bellach a thri phwynt ar y blaen i Leeds, ar ôl i Wayne Routledge ddod oddi ar y fainc i sgorio gôl allweddol brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 31).

Maen nhw’n ddi-guro ers i Steve Cooper olynu Graham Potter cyn dechrau’r tymor, ar ôl ennill pum gêm a chael un gêm gyfartal.

“Dyma’r canlyniad perffaith, llechen lân oddi cartref a sgorio un [gôl],” meddai Steve Cooper.

“Mae’n ganlyniad da.

“Dw i ddim yn mynd i fod yn rhy dawel, ond mae yna 40 o gemau’n weddill.

“Dw i’n teimlo fel pe baen ni wedi chwarae 30 eisoes!

“Wrth gwrs ei fod yn ddechrau da, ac yn galonogol.

“Cyfanswm da hyd yn hyn, does dim amheuaeth am hynny.

“Ond mae angen i ni barhau, parhau i weithio a pharatoi ar gyfer y gêm nesaf.

“Mae chwe gêm yn rhy gynnar i sôn [am ennill y gynghrair a dyrchafiad].

“Dw i wir ddim yn edrych ar y tabl.

“Ry’n ni’n hapus gyda’r ffordd ry’n ni’n bwrw ati, yn falch gyda chynnydd y tîm. Ry’n ni’n tyfu.”