Mae Steve Cooper yn dweud bod dull tîm pêl-droed Abertawe yn dwyn ffrwyth, ar ôl iddyn nhw guro Birmingham o 3-0 i fynd yn gyfartal ar bwyntiau â Leeds ar frig y Bencampwriaeth.

Maen nhw wedi cipio 13 pwynt allan o 15 i sicrhau’r dechrau gorau i’w tymor ers 41 o flynyddoedd.

Byddan nhw’n herio Leeds yn Elland Road ddydd Sadwrn nesaf, gyda dim ond gwahaniaeth goliau rhyngddyn nhw ar hyn o bryd.

Sgoriodd Kyle Naughton, Bersant Celina a Borja Baston yn yr ail hanner yn erbyn tîm gwan Pep Clotet, cyn is-reolwr Abertawe.

“Mae’n amlwg yn ganlyniad da yn nhermau’r pwyntiau ac rydyn ni’n falch iawn am hynny,” meddai Steve Cooper.

“Ond yr hyn sy’n bwysicach yw ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n cipio pwyntiau gyda’n dull o chwarae ar y bêl ac oddi arni.

“Mae gyda ni’r gallu i balu’n ddwfn a dangos gwytnwch, boed wrth sgorio goliau neu amddiffyn yn y cwrt cosbi.

“Dydy hi ddim wedi bod yn hawdd, yn sicr, ac fe fydd yn parhau felly.”

Cyn y daith i Leeds, fe fydd gan yr Elyrch gêm yng Nghwpan Carabao yn erbyn Caergrawnt nos Fercher.