Dydy pêl-droedwyr ifainc sy’n chwarae mewn academïau yng ngwledydd Prydain ddim yn chwarae digon o gemau, yn ôl Ryan Giggs, rheolwr tîm Cymru.

Mae’n dweud bod y drefn bresennol yn amddifadu chwaraewyr ifainc o gyfleoedd i ddatblygu, gan eu bod nhw ond yn chwarae yn erbyn chwaraewyr o’r un oedran yn hytrach nag yn erbyn dynion.

Chwaraeodd Ryan Giggs i Manchester United yn 17 oed, gan fynd yn ei flaen i osod record drwy chwarae 963 o weithiau i’r clwb dros gyfnod o 24 o flynyddoedd.

Ond mae chwaraewyr cyfoes ymhell ar eu hôl hi o’u cymharu â chwaraewyr ar y cyfandir, meddai.

“Rydych chi’n gweld gyda rhai o’r timau ry’n ni’n chwarae yn eu herbyn nhw beth maen nhw wedi bod drwyddo,” meddai.

“Mae ganddyn nhw gadernid a munudau y tu ôl iddyn nhw.

“Mae gyda ni’r system academi, pêl-droed dan 23, a dydy chwaraewyr ddim yn chwarae digon o gemau.

“Pan o’n i’n 16, ro’n i’n chwarae yn erbyn dynion – am 3 o’r gloch ar ddydd Sadwrn yn erbyn Everton i’r ail dîm yn Old Trafford.

“Ro’n i’n erbyn pobol fel Dave Watson [capten Everton] a dyma’r math o beth nad yw chwaraewyr ifainc yn ei gael erbyn hyn.”