Cafwyd newyddion da ym Mrychdyn yr wythnos hon wrth i ffatri Airbus newydd gwerth £400 miliwn gael ei hagor yn swyddogol. Ond roedd y newyddion da wedi dechrau ar y cae ddydd Sul diwethaf diolch i fuddugoliaeth gyntaf y tymor i’r tîm pêl-droed. Ac wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau ar adenydd yr A350, gobeithio adeiladu ar ganlyniad da ei dîm fydd cyfarwyddwr pêl droed Airbus, Craig Harrison.

Gormod o gemau cyfartal yw hanes Airbus y tymor hwn, ond mi fyddan nhw’n gobeithio newid hynny gyda’u hail fuddugoliaeth o’r bron ym Mhort Talbot yfory.

Yn dilyn dwy gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Drenewydd yr wythnos ddiwethaf does dim dwywaith y bydd blaenwr Airbus, Ian Sheridan, yn awchu i ddod o hyd i gefn y rhwyd unwaith eto ym Mhort Talbot. Mae yntau a’i gyd ymosodwr, Mike Hayes, wedi sgorio pedair gôl yr un y tymor hwn a hwy fydd y prif fygythiad i amddiffyn y tîm cartref yn Stadiwm GenQuip yfory.

Un gôl yr un oedd hi pan heriodd y ddau dîm ei gilydd ym Mrychdyn yn gêm gynta’r tymor a bydd Airbus yn gobeithio am ganlyniad tebyg os nad gwell yr wythnos hon. Y golgeidwad, Niki Lee-Bulmer, oedd seren y gêm i Airbus y diwrnod hwnnw ond bydd yntau yn ddigon hapus gyda 90 munud distawach y tro hwn.

Dyma gêm hynod bwysig wrth i ail hanner rhan gyntaf y tymor ddechrau. Wrth i’r bwlch rhwng y pump uchaf a gweddill y gynghrair ddechrau tyfu y mae’n edrych yn gynyddol debyg  y bydd pedwar neu bum tîm arall yn brwydro am y chweched safle holl bwysig hwnnw erbyn i’r gynghrair hollti ym mis Ionawr. Bydd pob gêm rhwng y timau hynny rhwng nawr a’r flwyddyn newydd yn holl bwysig felly a dyna’n union yw’r gêm hon rhwng Airbus a Phort Talbot ddydd Sadwrn. Bydd buddugoliaeth yn ddigon i roi Airbus yn gyfartal â Phort Talbot o ran pwyntiau, ond os colli bydd y bwlch yn cynyddu.

A fydd Airbus yn lledu eu hadenydd ar y GenQuip tybed? Bydd y cyfan yn fyw ar Sgorio, gyda’r gic gyntaf am 14:45.