Mae’n ymddangos bod gyrfa ryngwladol Paul Dummett, amddiffynnwr Cymru, ar ben ar ôl iddo ddewis Newcastle dros y tîm cenedlaethol.

Mae Ryan Giggs, rheolwr Cymru, wedi datgelu bod y chwaraewr 27 oed, sydd wedi ennill pum cap, wedi rhoi gwybod iddo na fyddai ar gael i gynrychioli ei wlad yn erbyn Azerbaijan fis nesaf.

“Dw i’n credu mai dyna ni,” meddai’r rheolwr wrth gyhoeddi’r garfan ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2020 yng Nghaerdydd ar Fedi 6.

“Fe wnes i siarad â Paul ac mae e jest eisiau canolbwyntio ar chwarae pêl-droed i’w glwb. Roedd yn teimlo ei fod e wedi cael llawer o broblemau â llinyn y gâr.

“Roedd wedi cael problemau â llinyn y gâr yn gynharach y tymor hwn a jest yn teimlo ei fod e eisiau sicrhau ei fod e’n ffit i Newcastle.”

Cap cyntaf

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn 2014, ond fe gafodd e ffrae â’r cyn-reolwr Chris Coleman, gan ddweud na fyddai ar gael i Gymru ar ôl mis Mai 2017.

Ond fe ddychwelodd e i’r garfan fis Ionawr y llynedd ar ôl i Ryan Giggs gael ei benodi’n rheolwr, ac fe chwaraeodd e yn erbyn Denmarc a Trinidad & Tobago.

Mae Ryan Giggs yn dweud ei fod e’n “parchu” ei benderfyniad, gan ddweud bod ganddo fe “opsiynau” yn yr amddiffyn.

Er bod Ashley Williams wedi cael ei hepgor, mae gan Gymru Chris Mepham, Ethan Ampadu, James Lawrence, Tom Lockyer a Joe Rodon.