Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi cael cweir o 3-0 gan Reading oddi cartref yn Stadiwm Madejski.

Roedden nhw dan bwysau drwy gydol y gêm, ac fe gawson nhw eu cosbi am ddiffyg undod ar draws y cae, wrth i George Puscas rwydo ddwywaith i’r tîm cartref.

Fe ddangosodd yr ymosodwr o Rwmania gryn sgil ar gyfer y ddwy gôl, gan dorri o’r asgell i sgorio’r gyntaf, cyn rhwydo o’r postyn agosaf ar gyfer ei ail.

Daeth y drydedd gôl gan John Swift saith munud cyn diwedd y 90, ac fe llai fod wedi bod yn waeth i’r Adar Gleision oni bai bod Yakou Meite wedi methu o’r smotyn diolch i arbediad da gan Alex Smithies.

Triphwynt yn unig sydd ganddyn nhw, ac maen nhw’n bedwerydd ar bymtheg yn y Bencampwriaeth.