Mae disgwyl i’r Cymro Gareth Bale aros gyda chlwb pêl-droed Real Madrid wedi’r cyfan, er yr holl ddyfalu am ei ddyfodol dros y misoedd diwethaf.

Fe ddisgleiriodd e ar ôl dechrau’r gêm yn erbyn Celta Vigo, y tro cyntaf iddo ddechrau gêm y tymor hwn, ac fe enillodd ei dîm o 3-1.

Fe ddywedodd Zinedine Zidane, y rheolwr, wrth yr ymosodwr ar ddechrau’r tymor nad oedd ganddo fe ddyfodol gyda’r clwb, ac roedd e ar fin symud i Tsieina.

Ond fe gafodd ei ddewis dros Lucas Vazquez ar gyfer y daith i Celta Vigo yn La Liga, gan greu’r gôl gyntaf i Karim Benzema.