Mae canolwr Cymru wedi ymuno â chlwb pêl-droed Rangers ar fenthyg o Gaerloyw am dymor.

Cafodd trosglwyddiad y Cymro, sydd a 50 cap i’w wlad, ei gadarnhau yn dilyn buddugoliaeth 3-1 Rangers yn erbyn Midtjylland yng Nghwpan Europa.

Mae Andy King yn diolch i’w reolwr yng Nghaerloyw, a chyn-reolwr Celtic, Brendan Rogers, am wthio’r trosglwyddiad.

“Dywedodd ei bod hi’n amser i mi geisio dod o hyd i her newydd ac yn ffodus rwyf wedi llwyddo i wneud hynny – her enfawr mewn clwb pêl-droed enfawr ac un rwy’n falch iawn o fod ynddo,” meddai Andy King wrth Rangers TV.

Fe wrthododd Andy King, wnaeth sgorio 62 gol mewn 379 gem i Gaerloyw ac oedd yn rhan o’r tîm wnaeth ennill Uwch Gynghrair Lloegr yn 2016, gynigion gan glybiau eraill i ymuno a’r clwb o Glasgow.

Mae’n cyfaddef fod y posibilrwydd o ennill medalau wedi chwarae rhan fawr yn ei benderfyniad.