Croesawu West Ham i Barc Spytty yn ail rownd Cwpan Carabao yw’r wobr i dîm pêl-droed Casnewydd am guro Gillingham ar giciau o’r smotyn neithiwr (nos Fawrth, Awst 13).

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Awst 26.

Enillon nhw o 4-1 ar giciau o’r smotyn ar ôl gorffen y gêm yn gyfartal 2-2, ond fe gafwyd pedair cic o’r smotyn yn ystod y 90 munud hefyd, a dwy ohonyn nhw’n dod yn ystod yr amser sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer anafiadau.

Sgoriodd Tristan Abrahams a Padraig Amond i’r Alltudion, wrth i Brandon Hanlan a Mikael Ndojli sgorio i Gillingham, ac fe wnaeth Brandon Hanlan fethu ag ymgais arall o’r smotyn.