Cafodd breuddwyd y Cymro, Dan James, ei wireddu ddoe (dydd Sul, Awst 11) pan sgoriodd yn ei gêm gyntaf gystadleuol i Man Utd yn erbyn Chelsea.

Daeth yr asgellwr 21 oed oddi ar y fainc ar y 74ain munud i’w gwneud hi’n 4-0 saith munud yn ddiweddarach yn erbyn y clwb o Lundain.

“Am ganlyniad! Moment arbennig i fi a fy nheulu i sgorio yn fy ngêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr yn Old Trafford! Dim teimlad gwell,” meddai Dan James ar Instagram.

Fe arwyddodd Dan James i Man Utd am £15m o Abertawe yn ystod yr haf, ac fe serennodd i dîm Ole Gunnar Solskjaer yn ystod y gemau cyfeillgar.