Mae Freddie Woodman, golwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, wedi cael ei ganmol am arbed cic o’r smotyn a chipio pwynt i’r Elyrch yn Derby ddoe (dydd Sadwrn, Awst 10).

Daeth y gic o’r smotyn bedair munud cyn yr egwyl, ac fe fu’n rhaid galw ar y golwr, sydd ar fenthyg o Newcastle, i wneud sawl arbediad pwysig yn ystod yr ail hanner.

Yn ôl Steve Cooper, rheolwr Abertawe, fe wnaeth y golwr ei waith cartref ar Martyn Waghorn cyn ei wynebu o 12 llathen, ar ôl i Jake Bidwell lorio Jayden Bogle yn y cwrt cosbi.

Aeth y golwr i’w ochr chwith ar gyfer yr arbediad, ac fe wnaeth e arbed sawl ergyd gan Florian Jozefzoon a Scott Malone yn ddiweddarach.

“Roedd Waghorn wedi mynd y ffordd yna bedair gwaith allan o’r pum tro diwethaf, ac roedden ni’n teimlo yn y gêm gartref gyntaf y byddai’n gwneud yr hyn mae e’n credu ei fod yn dda yn ei wneud,” meddai Steve Cooper.

“Doedd hi ddim yn gic sâl o’r smotyn, roedd yr arbediad yn dda iawn a chwarae teg i Freddie, mae e wedi gwneud ei waith dadansoddi ac mae wedi talu ar ei ganfed i ni.

“Roedden ni’n disgwyl iddo fe arbed y gic o’r smotyn unwaith iddo fe fynd y ffordd yna.”

… ond dim buddugoliaeth

Yn ôl Steve Cooper, roedd yr arbediad yn deilwng o gipio’r triphwynt yn y pen draw, ond doedd ei dîm ddim wedi gallu achub ar y cyfle i fynd am y fuddugoliaeth.

Mike van der Hoorn, yr amddiffynnwr canol, ddaeth agosaf at sgorio gyda pheniad aeth heibio’r postyn.

“Roedden ni’n disgwyl ennill y gêm ac roedd yna gynllun yn ei le a chyfleoedd i wneud hynny,” meddai’r rheolwr.

“Felly rydyn ni wedi cael siom nad oedden ni wedi gallu creu digon o gyfleoedd oherwydd cawson ni ein hunain mewn safleoedd da – ond fe wnaeth y bêl olaf ein siomi ni ormod o weithiau.”