Chris Gunter
Mae cefnwr Cymru, Chris Gunter, wedi dweud ei bod yn hollol hanfodol i Gymru gael dechrau da os am gael unrhyw obaith o lwyddiant yn eu hymgyrch am le yng Nghwpan y Byd.

Gorffennodd Cymru eu hymgyrch Ewrop 2012 yn y pedwerydd safle ar ôl buddugoliaeth ym Mwlgaria nos Fawrth, eu trydydd buddugoliaeth mewn pedair gêm.

Bydd tîm Gary Speed yn wynebu Croatia, Serbia, Gwlad Belg, Yr Alban a Macedonia yn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014, sydd yn dechrau fis Medi nesaf.

’’Mae’n rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn dechrau’n dda yn ein grŵp y flwyddyn nesaf,’’ meddai Gunter.

’’Mae’n rhaid gwneud yn siŵr o’r cychwyn ein bod yn cael canlyniadau da ac yn cadw ein hunain  yn safleoedd uchaf y grŵp.

“Yn rhy aml rydym wedi bod allan o’r gystadleuaeth hanner ffordd trwyddo, ac yn chwarae am barch yn unig.”

Dyma’r buddugoliaethau cefn wrth gefn cyntaf i Gymru ers 2005, a buddugoliaeth gystadleuol gyntaf Garry Speed oddi-cartref.

’’Mae’n braf ennill dwy gêm yn olynnol. Dwi’n methu cofio’r tro diwethaf i ni ddod i le fel hyn gan ennill,” meddai Gunter.

’’Ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid gorffen â chanlyniad a pherfformiad cadarnhaol, ac rydym fel tîm wedi gwneud hyn yn y gemau diweddaraf.

’’Gallwn wella ymhellach.  Gall y garfan wneud llawer yn well ac mae yna lawer o chwaraewyr i ddod yn ôl’’.

’’Ond wedi dweud hyn, mae’r chwaraewyr sydd wedi chwarae yn y ddwy gêm ddiwethaf wedi gwneud yn arbennig’’.

’’Pan chi’n gweld Joe Allen a Crofty (Andrew Crofts) yn chwarae fel y gwnaethon nhw –  mae hynny’n gadarnhaol iawn i’r garfan’’.

Mae Gunter hefyd wedi talu teyrnged i gefnogwyr Cymru a oedd wedi cefnogi’r tîm trwy gydol eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2012.

’’Roedd yr awyrgylch a grewyd yn rhagorol’’, meddai’r chwaraewr Nottingham Forrest.

’’Rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth yn fawr’’.